Mae grantiau ar gael i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig coronavirus / COVID-19 a’u helpu i baratoi i ailgychwyn gweithgareddau yn ddiogel.
Mae trydedd elfen y gronfa ‘Progress’ newydd gael ei lansio a’i nod yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gweithgaredd corfforol, cefnogi parhad ac ariannu dulliau newydd o gyflawni.
Bwriad y grant Cynnydd yw helpu i symud chwaraeon a gweithgaredd ymlaen i’r cam nesaf a chefnogi cynaliadwyedd tymor hir.
Bwriad y grant hwn yw helpu clybiau a sefydliadau i weithio tuag at dair egwyddor:
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y cyllid y maent yn gofyn amdano yn datblygu eu camp neu weithgaredd ac yn effeithio ar o leiaf un o’r egwyddorion hyn.
Gallwch ddarganfod mwy o fanylion a sut i wneud cais yma
Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.
I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru