Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol i gau 19 Mawrth

Cyhoeddwyd: 2 Mawrth 2021
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Bydd y gronfa cyllid brys COVID-19 ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gau i geisiadau ganol mis Mawrth.

Mae CGGC yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF), cynllun grant ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth hanfodol yn ystod argyfwng COVID-19.

Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Mae llawer o gymunedau wedi dioddef yn anghymesur, felly mae angen cymryd camau i sicrhau adferiad teg a chyfiawn. Bydd yr arian hefyd yn darparu adnoddau i’r sector gwirfoddol ymgorffori arferion diogel i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.

Mae grantiau rhwng £10,000 a £100,000 ar gael i elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) a mudiadau nid er elw (a gyfansoddwyd) o bob math sy’n gweithio ar lefel gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais yma.


Chwilio am gyllid ar gyfer eich prosiect neu sefydliad?…. cliciwch ar ein platfform chwilio am gyllid ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru!

Mae ein gwefan ariannu Funding Wales a lansiwyd gan Third Sector Support Wales, yn helpu sefydliadau trydydd sector i ddod o hyd i gyllid.

I ddechrau chwilio am gyfleoedd cyllido, ewch i funding.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award