
Heddiw, croesawodd BAVO Wasanaeth Patholeg Cwm Taf Morgannwg (CTM) a Roche, sydd wedi bod yn cydweithio ar fenter gwerth cymdeithasol gyda’r nod o gefnogi cymunedau lleol drwy roi gliniaduron wedi’u hadnewyddu.
Roedd Canolfan Deulu BARC, sydd wedi’i lleoli ym Maesteg, wrth ei bodd yn derbyn y rhodd, gan ddweud: “Bydd hyn yn ein helpu i ehangu’r cymorth rydym yn ei ddatblygu ar gyfer y gymuned.”
Mae’r gliniaduron, sy’n rhan o’u hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd a chreu effaith gymdeithasol gadarnhaol, wedi’u rhoi i grwpiau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w helpu i barhau â’u gwaith pwysig.
Croesawodd Mark Williams o Mental Health Matters y fenter hefyd, gan ddweud: “Bydd hyn yn helpu llawer o bobl sy’n dod i’r gwasanaeth ac nad ydynt yn teimlo’n hyderus iawn wrth ddefnyddio technoleg.”
Drwy weithio gyda sefydliadau lleol i nodi’r rhai sydd fwyaf mewn angen, mae’r bartneriaeth yn gobeithio gwella cynhwysiant digidol, cefnogi cyfleoedd addysg a chyflogaeth, a sicrhau bod y gliniaduron yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a grwpiau cymunedol ledled ardal CTM.
Hoffai BAVO ddiolch yn fawr i dîm y Gwasanaeth Patholeg yn CTM a Roche am y rhoddion hyn, a fydd yn cyfrannu’n sylweddol at gefnogi grwpiau a’u gwaith amhrisiadwy yn helpu unigolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fentrau yn y dyfodol, cysylltwch â Development@bavo.org.uk.




