Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn elusen a chwmni cofrestredig cyfyngedig trwy warant. Maent yn arbenigo mewn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyfleoedd egwyl fer i oedolion sy’n ofalwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar hyn o bryd maent yn edrych i recriwtio ymddiriedolwyr newydd, nid yn unig y rhai sydd â diddordeb mewn materion gofalwyr a chefnogaeth i Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ond yn enwedig y rhai sydd â’r sgiliau a’r profiad busnes canlynol:
Felly os oes gennych ddiddordeb yn, neu wybodaeth am unrhyw un o’r rhain, byddai croeso arbennig i chi wneud cais.
Mae arnynt angen pobl a all helpu Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr tuag at gyflawni ei gweledigaeth a sicrhau bod y sefydliad yn cael ei reoli’n effeithiol. Byddai angen i chi allu ymrwymo i Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ac yn anad dim, ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau gofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae parodrwydd i gefnogi datblygiad y Ganolfan Gofalwyr yn y dyfodol, diddordeb mewn materion gofalwyr, parodrwydd i fynegi syniadau yn hanfodol. Bydd profiad blaenorol o weithio mewn pwyllgor yn ddymunol.
Byddant yn talu costau teithio ymddiriedolwyr ac yn darparu sesiwn sefydlu i waith a hyfforddiant Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr os bydd angen.
E-bostiwch enquiries@bridgendcarers.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn swydd fel ymddiriedolwr ac i ofyn am ffurflen gais.