Adroddiad ‘Ymateb Cymunedol i Covid’
Dr Sarah Lloyd-Jones a Dr Duncan Holtom
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y rôl a chwaraeodd grwpiau a sefydliadau cymunedol a sector gwirfoddol ac yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda chymunedau penodol, wrth gefnogi pobl yn ystod y cyfnod cloi cyntaf a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020.
Comisiynodd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a phartneriaeth Llechi, Glo a Chefn Gwlad ymchwil i ddeall i ba raddau yr oedd cael sefydliadau cymunedol presennol wedi’u lleoli mewn cymdogaethau yn caniatáu gwell cefnogaeth i’w poblogaethau yn ystod y cyfnod cloi cyntaf.
Edrychodd yr ymchwil hefyd ar sut roedd cyrff sirol yng Nghymru (yn enwedig awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol sirol) yn cynllunio ac yn darparu cefnogaeth i’r cymunedau hynny ac i ba raddau y gwnaed hyn gyda sefydliadau cymunedol.
Cyfwelwyd â 51 o bobl i gyd. Canolbwyntiodd ymchwil ar saith sir yng Nghymru (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro a Wrecsam). Ar draws y saith ardal, cyfwelwyd cynrychiolwyr o 19 o sefydliadau a grwpiau cymunedol a phob un o’r saith cyngor gwirfoddol sirol (CVCs) ac awdurdodau lleol. Rhoddwyd mewnwelediad ychwanegol trwy gyfweliadau â’r rhai sy’n ymwneud yn agos â’r ymateb i argyfwng ar lefel gymunedol neu genedlaethol, fel cynghorwyr a sefydliadau cenedlaethol.




