Bydd Tîm Datblygu BAVO yn eich ardal: Bryncethin a Llangeinorar 5 Rhagfyr.
Mae BAVO yn mynd allan ac o gwmpas i gwrdd â chi “ar eich patsh”. Os ydych chi’n gweithio yn ardal Bryncethin a Llangeinor byddem wrth ein boddau yn ymweld â’ch grŵp.
Rydym am i hyn fod yn gyfle i’r tîm ddod i weld y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud yn uniongyrchol, a hefyd i sgwrsio am unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae BAVO yn cefnogi’r trydydd sector gyda:
Cysylltwch â ni fel y gallwn drefnu ymweliad â chi ar 5 Rhagfyr. Rydym yn edrych ymlaen i gwrdd â chi.
E-bostiwch: alisonmawby@bavo.org.uk