Gweminar ar Ansawdd : Dosbarth Meistr DEWIS! Dydd Iau 5 Awst, 2.00yp – 3.15yp

Dyma rhywbeth i dynnu dŵr o ddannedd i’r rheini ohonoch sy’n dal yn y gwaith, ar ôl ffarwelio â gweddill y tîm sydd ar eu gwyliau: Dosbarth Meistr Dewis. Pa ffordd well o dreulio prynhawn yn yr haf?!

Bydd y sesiwn ar-lein yn edrych o’r newydd ar Dewis a’r hyn y mae’n ei gynnig i’r sector cynghori – rhoi mynediad parod i gleientiaid at wybodaeth, hwyluso atgyfeiriadau rhwng sefydliadau a chefnogi rôl y Rhwydweithiau Cyngor Rhanbarthol.

Bydd hefyd yn trafod agweddau ymarferol, gan roi cyngor ar sut i sicrhau bod eich rhestr adnoddau ar Dewis:

  • yn adlewyrchu’r hyn yr ydych yn ei wneud, yn glir ac yn gywir;
  • cael ei chanfod gan bobl a sefydliadau sy’n chwilio am y math o wasanaethau rydych chi’n eu darparu;
  • cael ei chyhoeddi – ac yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf!

Mae’r manylion llawn am y digwyddiad a’r broses archebu yma.

Os ydych yn cofrestru eich gwasanaeth ar Dewis, peidiwch ag anghofio lanlwytho i adnodd y sector gwirfoddol hefyd. https://en.infoengine.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award