Ydych chi’n rhan o grŵp dielw neu gymunedol sy’n gweithio yng Nghymru? Ydych chi’n chwilio am arian ar gyfer prosiect newydd? Archebwch slot 45 munud i sgwrsio trwy’ch syniad prosiect gyda Rheolwr Ymgysylltu.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi grantiau rhwng £ 3,000 a £ 5 miliwn ar gyfer prosiectau newydd sy’n cynnwys pobl mewn treftadaeth. Mae hyn yn cynnwys treftadaeth gymunedol, diwylliannau pobl, atgofion a thraddodiadau, natur a bywyd gwyllt, adeiladau hanesyddol, amgueddfeydd a pharciau hanesyddol.