Mae ceisiadau ar agor nawr am gymorth hyfforddi am ddim

Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2021

Mae Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn rhoi cymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach a chanolig neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd.

Mae nhw’n gwahodd ceisiadau nawr ar gyfer rhan cymorth hyfforddiant am ddim y prosiect newydd.

Mae pedwar diwrnod o gymorth hyfforddi trylwyr am ddim ar gael i 25 o fudiadau ar bynciau fel llywodraethu, cynllunio busnes a chynhyrchu incwm i helpu i wella gwydnwch mudiadau a’u gallu i ymdopi â newid.

Wedi’i chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae CGGC yn rhedeg prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru. Caiff y prosiect hefyd ei gefnogi gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Anabledd Cymru a Pride Cymru.

Gellir cael manylion llawn y cymhwysedd ar gyfer y categori hyfforddiant ar ei tudalen Catalydd Cymru: Ehangu Gorwilion.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyfle hyfforddi, e-bostiwch Siobhan Hayward, Swyddog Catalydd Cymru yn shayward@wcva.cymru

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award