Rydyn ni’n dal eich angen chi!
Yn ddiweddar, fe gynhalion ni grwpiau ffocws i gasglu barn ar Cyllido Cymru, a sut y gallwn wella’r llwyfan i’w gwneud hi’n haws fyth i chi ddod o hyd i gyfleoedd cyllido.
Roedd y grwpiau ffocws yn werthfawr iawn ac maen nhw wedi rhoi mewnwelediadau a syniadau gwych i ni i wella’r profiad o ddefnyddio Cyllido Cymru.
Rhannwch eich barn
Ond rydyn ni am glywed gan ragor o leisiau er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn! Mae dau gyfle arall o hyd i rannu eich barn ar Gyllido Cymru:
Os nad oes un o’r opsiynau yma’n apelio, gallwch gysylltu â’r ymchwilydd yn uniongyrchol cyn 17 Rhagfyr drwy e-bostio Martyn Palfreman yn Martyn@mjpalfreman.co.uk, a naill ai e-bostio’ch sylwadau neu drefnu sgwrs 15 munud â Martyn yn uniongyrchol dros alwad ffôn neu fideo.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd Martyn yn adrodd ar ei ganfyddiadau i Cefnogi Trydydd Sector Cymru (sy’n rhedeg ac yn berchen ar Cyllido Cymru) ym mis Ionawr. Ar ôl hynny, byddwn yn ceisio gweithredu’r newidiadau yn ystod hanner cyntaf 2022.