Gwobrau Dinasyddiaeth Maer Pen-y-bont ar Ogwr – Ar agor i gael enwebiadau nawr

Cyhoeddwyd: 10 Tachwedd 2022
Sylwch, mae'r erthygl hon wedi dod i ben

Mae’r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2023

Cliciwch yma am ffurflen enwebu, sy’n cynnwys rhywfaint o arweiniad.

Mae’r meini prawf ar gyfer y gwobrau yn cynnwys:

  • Dim ond ar gyfer un wobr y gall enwebeion fod yn gymwys.
  • Dim ond am gyflawniad newydd y gellir enwebu enillwyr y gorffennol.
  • Mae’r gwobrau hyn yn agored i’r holl ddinasyddion. Fodd bynnag, rhaid i’r rhai a enwebwyd am eu gwaith cyflogedig fod yn gwneud gwaith eithriadol uwchlaw a thu hwnt i’r hyn a ddisgwylir o’u swydd.
  • Mae pob gwobr yn gyfartal o ran gwerth.

Dylid dychwelyd enwebiadau wedi’u cwblhau i Swyddfa’r Maer naill ai drwy’r post neu drwy e-bost: Mayor@bridgend.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 13 Ionawr 2023.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award