Cydweithio i gefnogi pobl

Community Companions

Sylwch: fel canlyniad i’r cyngor cyfredol ar Coronafeirws, ar hyn o bryd rydym ond yn darparu Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19 sy’n cynnig help a chefnogaeth yn yr adeg ansefydlog hon i aelodau mwyaf bregus yn y gymuned,  trwy sgyrsiau.

Trwy helpu i leihau eich ofnau os ydych chi’n profi pryder ac ansicrwydd; mae ein prosiect cyfeillio dros y ffôn yn cynnig llais cyfeillgar ar eiliad mae’r teimladau o unigedd ac unigrwydd yn cynyddu.

Pwy all gyfeirio pobl?

Unrhyw un sy’n cefnogi person ac yn teimlo bod angen ychydig mwy cefnogaeth neu gwmnïaeth. Gall cyfeireb dod o weithwyr iechyd proffesiynol fel therapyddion galwedigaethol, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys ardal. Gall cymdeithasau tai hefyd gwneud cyfeireb, yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol, aelodau o’r teulu neu ffrindiau. Hefyd, mae gennym bobl sy’n hunangyfeirio..

Pwy ellir cyfeirio?

I fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth cyfeillio mae angen iddynt fod yn:

  • teimlo’n unig neu’n ynysig heb unrhyw neu dim llawer o gefnogaeth deuluol;
  • byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
  • byw mewn llety cysgodol neu’n rhentu, eiddo cymdeithas dai neu’ch cartref eich hun;
  • wedi dioddef profedigaeth ac angen cefnogaeth i fynd yn ôl i fywyd cymunedol;
  • eisiau gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau neu glybiau cymunedol, ond nid oes gennych yr hyder i fynd yno ar eich pen eich hun.

Quality in befriending awardSut i gyfeirio rhywun?

  • Trafodwch ein gwasanaeth gyda’r unigolyn dan sylw, rhaid iddynt fod yn hapus a chytuno i dderbyn cefnogaeth wrthym ni.
  • Cysylltwch â’n swyddfa BAVO a siaradwch â’n Swyddog Prosiect trwy ffonio 01656 810400 neu: bavo@bavo.org.uk

Cwblhewch ffurflen gyfeirio ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn yma

Byddwn ni’n:

  • sefydlu ymweliad cychwynnol gyda’r unigolyn sy’n gofyn am gyfeillio i drafod ei anghenion;
  • paru gwirfoddolwr hyfforddedig wedi’i wirio â DBS ag anghenion yr unigolyn yn ofalus;
  • mynd gyda’r gwirfoddolwr ar ei ymweliad cychwynnol;
  • cysylltu â chi i’ch hysbysu bod y gwasanaeth cyfeillio wedi cychwyn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy lawrlwytho ein canllaw atgyfeirio ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr


Cysylltwch â ni:

Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk

Community Companions partners

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award